Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd,

a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Tachwedd 2024

Amser: 11.00 - 15.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
14169


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Mike Hedges AS (Cadeirydd)

Natasha Asghar AS

Alun Davies AS

Adam Price AS

Tystion:

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Claire McDonald, Llywodraeth Cymru

Jennifer Pride, Llywodraeth Cymru

Scott Tyler, Llywodraeth Cymru

Julie James AS, Counsel General Designate and Minister for Delivery

Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru

Claire Fife, Llywodraeth Cymru

Luke Fletcher AS

Carolyn Thomas AS

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS am eitemau 2 i 6 ar yr agenda.

 

Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas AS a oedd yn bresennol fel gwestai ar gyfer eitemau 2 i 6 ar yr agenda, gan gynrychioli Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

 

Croesawodd y Pwyllgor hefyd Luke Fletcher AS a oedd yn bresennol fel gwestai ar gyfer eitemau 2 i 6, gan gynrychioli Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

</AI1>

<AI2>

2       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg.

</AI2>

<AI3>

3       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ynni Prydain Fawr: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Ynni Prydain Fawr.

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 6, 12, 13, 14, 15

Derbyniwyd y cynnig.

</AI4>

<AI5>

5       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ynni Prydain Fawr: Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI5>

<AI6>

6       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg: Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI6>

<AI7>

7       Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni mewn perthynas â’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).

</AI7>

<AI8>

8       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI8>

<AI9>

8.1   SL(6)537 - Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru.

</AI9>

<AI10>

8.2   SL(6)540 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

9       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

</AI11>

<AI12>

9.1   SL(6)535 - Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ymateb i’r adroddiad a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

9.2   SL(6)536 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad.

</AI13>

<AI14>

9.3   SL(6)516 – Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

</AI14>

<AI15>

10    Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI15>

<AI16>

10.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog.

</AI16>

<AI17>

10.2 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Deunydd Pacio a Gwastraff Deunydd Pacio) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI17>

<AI18>

10.3 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI18>

<AI19>

10.4 Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygio) 2024

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI19>

<AI20>

11    Papurau i'w nodi

</AI20>

<AI21>

11.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Comisiwn Annibynnol ac Adolygiad o’r Sector Dŵr

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog.

</AI21>

<AI22>

11.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol at y Llywydd: Bil Hawliau Cyflogaeth

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol at y Llywydd.

</AI22>

<AI23>

11.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Rhentwyr

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol.

</AI23>

<AI24>

11.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Gofal Cymdeithasol (Cymru).

</AI24>

<AI25>

11.5 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Gwahoddiad i roi tystiolaeth

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ysgrifennu ymateb.

</AI25>

<AI26>

11.6 Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwelliant Llywodraeth y DU i’r Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus)

Nododd y Pwyllgor yDatganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl mewn ymateb.

</AI26>

<AI27>

12    Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o wybodaeth.

</AI27>

<AI28>

13    Adroddiad blynyddol 2023/24: Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI28>

<AI29>

14    Y wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Charchar EF Y Parc

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Garchar EF Y Parc.

</AI29>

<AI30>

15    Gohebiaeth i Lywodraeth y DU: Diweddariad

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am ei ohebiaeth i Lywodraeth y DU.

</AI30>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>